Coed y Cardi

Yma yng Nghoed y Cardi rydym yn frwd dros annog defnyddio coed cynhenid ar gyfer prosiectau gwaith coed. Fel busnes teuluol rydym yn cynnig gwasanaeth cyfeillgar, personol a phroffesiynol.

“Rhowch alwad i ni.” Rydym yma i’ch helpu .Ein bwriad yw i blesio’r cwsmer.

Unwaith bydd crefftwyr coed yn barod i dderbyn coed cynhenid byddant hefyd yn darganfod ei swyn a’i brydferthwch, bydd hyn hefyd yn help i ostwng ôl troed carbon.

Mae digon o goed cynhenid gennym yn lleol yng Nghoed y Cardi sydd wedi ei leoli ar bwys Llandysul yng Ngheredigion.

Rydym yn bresennol yn cynnig deunyddiau wedi eu creu o dderw, llarwydd, ffinidwydd douglas a cedrwydd coch gorllewinol. Mae’r coed i gyd yn deillio o ffynonellau lleol yn bennaf o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, o goedwigoedd wedi eu rheoli.

Ein hamcan yw cynnig coed o ffynonellau cynhenid er mwyn lleihau ein ôl troed carbon. Mae hyd yn oed ein lleoliad yn fan o bwysigrwydd ecolegol sy’n cael ei gynnal a’i gadw’n ofalus

Cynigwn amrywiaeth eang o ddeunyddiau o safon uchel ac arbenigwn mewn creu deunyddiau unigryw ar gyfer ein cwsmeiriaid, wedi eu crefftio â  llaw yn ein gweithdy yn nghanol cefn gwlad Ceredigion.

Ar gyfer eich brosiect nesaf cysylltwch â
Coed y Cardi am amcangyfrif y gost
( yn rhâd ac am ddim )

EIN BWRIAD YW I BLESIO'R CWSMERIAID

Cladding

Derw

 

Coed cynhenid

Caban Bugail

Dodrefn i’r Ardd

Meinciau

Paneli Ffensio

Trawstiau

Pyst Giatiau

Step 1

Requirements

Let us know what you want

Step 2

Build

Clinton will create your item

Step 3

Delivery

Item delivered